![]() |
West
Wales Museum of Childhood Pen-ffynnon, Llangeler SA44 5EY T: 01559 370428 www.toymuseumwales.co.uk EDUCATIONAL RESOURCE / ADNODD ADDYSGIADOL |
|
Adnodd Addysgiadol - Cyflwyniad cymraeg_teach_intro.htm Bwriad y dudalen hon yw dangos sut all yr amgueddfa a'n gwefan gynorthwyo athrawon i gyflwyno testunau'r Cwricwlwm Cenedlaethol o CA1 i CA4 ac uwch. Gellir defnyddio teganau fel gwrthrych prosiect a gellir eu defnyddio ym mhob math o ffyrdd oddi fewn i'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Cofiwch y gellir astudio teganau nid yn unig o ran eu hanes cymdeithasol ond hefyd ar gyfer testunau eraill yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Dyma rai enghreifftiau: Mathemateg - o waith rhifedd sylfaenol i fathemateg pen i gyfrif cyflymder a chymhareb. Ac mae hyd yn oed helfa ddreigiau i'r ifanc iawn. Ffiseg - sut mae moduron, lifers ac injan megis gêrs mecanyddol, stêm, clocwaith neu drydan yn gweithio. Daearyddiaeth - lle yn y byd y maent wedi dod, pryd y daethant a phaham. Dylunio Technoleg - mae gan yr amgueddfa lawer o arddangosfeydd sy'n rhoi llawer o syniadau ar gyfer dylunio, adeiladu a defnyddio gwahanol ddeunyddiau, mecanweithiau, ac ati. Mae'r amgueddfa a'i gwefan yn adnoddau gwerthfawr o wybodaeth yn cynnig lluniau i chi a'r plant eu defnyddio. Bydd y plant yn magu profiad o ddefnyddio llygoden er mwyn mynd o amgylch y wefan. Fel rhan o'n rhaglen gwaith allanol, gall yr amgueddfa ddod i mewn i'ch ysgol a chynnal sgyrsiau ac arddangosfeydd. Codir tâl am wneud hyn ac mae'n ddibynnol ar bellter ac os yw staff ar gael. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ym mis Gorffennaf, Awst a Medi. I gael ragor o fanylion, ffoniwch Hilary ar 01559 370428 neu anfonwch e bost i info@toymuseumwales.co.uk. Awgrymiadau ar eich cyfer chi yw'r taflenni gwaith. Gallwch eu defnyddio fel ag y maent neu - os nad ydynt yn addas i'ch anghenion chi - gallwch eu newid a chreu rhai eich hunan. Mae croeso i f yfyrwyr ddod â chinio gyda hwy mewn pecyn, er bod gennym fyrbrydau poeth a diodydd oer a phoeth ar gael. Mae gennym ragor o fanteision i fyfyrwyr yn cynnwys ein gwisgoedd cyfnod ac oriel decstilau a hefyd ein harddangosfeydd Llinell Amser o'r Ugeinfed Ganrif. Efallai yr hoffai athrawon hefyd gymryd mantais o'n hystafell ddosbarth o gyfnod hanesyddol gyda lle i 20 eistedd gyda llechi, bwrdd du ac arddangosfa hardd o hen offer ysgol. Mae'n ddigon hawdd cael mynediad i'r amgueddfa a hefyd oddi amgylch iddi. Gweler y datganiad mynediad (ar sgrîn 'Gwybodaeth Gyffredinol' ein gwefan.) Hefyd mae gennym asesiad risg Iechyd a Diogelwch, gellir derbyn copi ohono os y gofynnwch amdano. Rydym yn cynghori, os yn bosib, i aelod o staff ymweld â'r amgueddfa er mwyn mynd o amgylch y cyfleusterau a'r arddangosfeydd er mwyn cynllunio ar gyfer ymweliad ysgol llwyddiannus. Ni chodir unrhyw dâl am wneud hyn. Gellir defnyddio testunau 'Teganau' o CA1 i CA4 mewn amryw o wahanol ffyrdd oddi fewn i destunau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. |
|
Lluniau sy'n addas i CA 1 i'w lliwio adref neu yn yr ysgol. Mae'r rhain hefyd yn ddeunyddiau da ar gyfer gwneud gwaith astudio mewn cyfnodau allweddol diweddarach Cyfnod Allweddol 1 Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 3 Cyfnod Allweddol 4 |
Rhestr o daflenni â Lluniau gyda manylion y tegan CS 1 Rhestr o daflenni â Lluniau gyda manylion y tegan CS 2 Llenwch y llythrennau i ddod o hyd i'r tegan CA 2 Deunyddiau CA 2 Symudiad CA 3 Deunyddiau CA 3 Symudiad CA 4 Dulliau o gynhyrchu'r teganau |