Mae enw Arthur fel arwr mytholegol yn gyfarwydd i bawb, ond mae gwreiddiau ei hanesion yn ddwfn yn hanes a chwedloniaeth Cymru. Yn y gyfres unigryw hon, caiff Chwedl Arthur ei hadrodd mewn ffordd sy’n driw i draddodiad Arthur yn y diwylliant Cymreig.
Mewn nofel graffeg o ddarluniau manwl, yn y gyfrol gyntaf hon cyflwynir dwy gainc agoriadol y gyfres, hanes rhyfeddol Myrddin Wyllt fel daroganwr a dyn gwyllt y coed, a datblygiad arwrol Arthur fel cadlywydd y Brythoniaid yn gwrthsefyll dyfodiad y Saeson i Ynys Prydain. Dyma’r cyfnod yn y bumed ganrif, yn union wedi i’r Rhufeiniaid adael Prydain, pan welwyd ail-eni yn niwylliant y Brythoniaid brodorol, pan ddatblygodd yr iaith Gymraeg o’r famiaith Frythoneg, a phan gyfansoddwyd ein llenyddiaeth a’n hanes cynharaf.
Mae’r hanes yn cyflwyno cymeriadau sydd i’w canfod mewn chwedloniaeth fel unigolion meidrol o gig a gwaed, gan gychwyn gyda brad Gwrtheyrn wrth ildio tir i Hengist, i eni Myrddin a’i ieuenctid rhyfeddol a’r gwewyr wnaeth ei droi’n wallgo cyn i’w gyfaill Taliesin ddod i’r fei a’i iachau. Daw Myrddin ar draws y bachgen Arthur, a gweld mai hwn oedd y mab darogan gwreiddiol a fyddai’n tyfu i achub ei genedl. A felly y bu, yn ddyn ifanc casglodd Arthur lu o ryfelwyr o’i gwmpas oedd yn barod i ddilyn ei arweiniad i gadw’r Saeson draw, a chydymdeithio gydag e o un frwydr strategol i’r llall, yn cadw’r tir yn rhydd o ddwylo rheibus y gelyn.