Cyfaredd Caer Is yw ail gyfrol cyfres Y Derwyddon, yn ddilyniant i gyfrol Dirgelwch yr Ogam. Teithia Gwynlan a’i brentis Taran, ynghyd â’r mynach Budog, i ddinas chwedlonol Caer Is. Dinas yw hon a godwyd ger y môr, ac yno y teyrnasa’r dywysoges Dahud, merch y brenin Gralon. Er bod Dahud dal yn driw i hen grefydd y Celtiaid, mae’n ddigon parod i groesawu mynachod yr Eglwys Geltaidd newydd i’w dinas, ac i’w temtio â phleserau mewn neuaddau llawn oferedd a chynteddau o nwyd. Er hynny, mae llawer mwy i’w chyfaredd na’r chwantau amlwg, a daw ei phenderfynrwydd i’r amlwg wrth amddiffyn ei hannibynniaeth rhag unrhyw gais i’w phriodi. Ond pan ddaw’r pendefig diweddara i geisio’i llaw at byrth Caer Is, daw hefyd tystiolaeth ychwanegol i gynorthwyo ymchwil Gwynlan i lofruddiaethau’r mynachod, gyda’r bys yn pwyntio at gysylltiad â hen urdd fileinig yr Eglwys, Dialedd Duw.
Y Derwyddon : Cyfaredd Caer Is
ISBN: 978-0-9551366-8-9
Awdur: Jean-Luc Istin, Thierry Jigourel, Jacques Lamontagne
Addasiad Cymraeg: Alun Ceri Jones
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2007
Pris: £9.99
48tt, clawr caled 320mm x 230mm
Nofel graffeg gothig ar gyfer pobol yn eu harddegau ac oedolion
Derwyddon
is also available
in English.