Dyma gyfrol gynta cyfres gothig iasoer wedi ei gosod yn Oes y Seintiau yn y 5ed ganrif. Mae cynnwrf ar draws tiriogaethau’r Brython, gydag Ymerodraeth Rhufain yn gwanychu a gwrthdaro rhwng pobloedd a chredoau hen a newydd. Mae gorthrwm yr Eingl-Saeson tua’r dwyrain yn sbrduno nifer o’r Brythoniaid i sefydlu gwladfa newydd Llydaw yn Armorica yng ngwlad Gâl. Yn cyrraedd yn eu sgil mae arweinwyr ysbrydol yr Eglwys Geltaidd – y mynachod – a’r grefydd newydd yn darogan tranc yr hen ffydd oedd yn gweld einioes a bywyd yn y coed a natur. Ond erys yr hen draddodiadau yn ddiysgog yn erbyn y newydd, a gyda hynny mae Gwynlan, Derwydd ola Llydaw, a’i ddisgybl Taran yn cael eu hunain yng nghanol ymgiprys milain yn erbyn mynachod yr Eglwys. Daw cyhuddiadau o lofrudiaeth, aberth dynol a dewiniaeth o bob cwr, ond mae’r hen dduwiau wrth law i gynorthwyo’r cyfiawn.






