Mae'r antur iasoer o Oes y Seintiau yn parhau, wrth i ymchwil Gwynlan i lofruddiaethau cïaidd mynachod yr Eglwys Geltaidd ei dywys dros y môr i Brydain – Ynys y Cedyrn. Mae dau o Drysorau’r Brythoniaid, Pair y Dadeni a Gwayw Lleu, yn allweddol i ymgais Eglwys Rufain i ddisodli hen ffydd y Brythoniaid. Dan fygythiad môr-ladron rheibus, daw Arthur a'i osgordd i gynorthwyo Gwynlan a'i gymdeithion. Gyda chymorth y bardd Myrddin caiff Gwynlan ei arwain harwain ar hyd trywydd diogel, o olwg y Saeson, i Gôr y Cewri yn nhiriogaeth llwyth y Dyrdrigiaid – y meini hynafol sy'n gwarchod rhan o'r gyfrinach y mae Gwynlan yn chwilio amdani. Yno caiff ddatguddiad pwysig sy’n sbarduno’r ymchwil ymhellach. Wrth chwilio am loches ar eu taith, daw’r teithwyr wyneb yn wyneb â bygythiad hudolus ond angheuol sy’n rhoi bywyd Taran yn y fantol. Un man yn unig all roi achubiaeth i’r llanc, man ymhell i ffwrdd yn nhiriogaeth yr Orddwy, ac mae eu hynt yn dwyn y teithwyr i fynachlog Deiniol ar lannau'r culfor sy'n rhannu'r tir mawr o ynys sanctaidd y Derwyddon — Môn.
Y Derwyddon: Cylch y Cedyrn
Pris: £6.99
ISBN: 978-1-906587-20-8
Awdur: Jean-Luc Istin, Thierry Jigourel, Jacques Lamontagne
Addasiad Cymraeg: Alun Ceri Jones
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2010
48tt, clawr meddal 320mm x 230mm
Nofel graffeg gothig ar gyfer pobol yn eu harddegau ac oedolion
Mae cyfres
Y Derwyddon
hefyd ar gael yn
Saesneg.