Mae cyfres Y Derwyddon yn parhau gyda phumed ran yr ymchwil i lofruddiaethau gwaedlyd yn yr Eglwys Geltaidd yn ystod Oes y Seintiau. Mae’r derwydd Gwynlan a’i brentis Taran bellach wedi goroesi’r dymestl a chyrraedd Môn, ynys sanctaidd y derwyddon. Yno daw grymoedd yr hen ffydd i wella Taran o’i glwyfau angeuol, ac arwain Gwynlan a’i gymdeithion ymhellach i’r gogledd i geisio canfod yr ateb i’r dirgelwch. Mae’r daith yn eu tywys i gartref pell y Prydyn yn yr Alban, ac yno daw’n amlwg bod ffawd y Pair Dadeni ynghlwm wrth graig frenhinol y Maen Rhial. Craig yw hon a gipiwyd gan Lychlynwyr rheibus. Mae trywydd Gwynlan yn ei arwain ymhellach dros y môr… ac yn llechu y tu ôl iddo yn y niwl mae grymoedd milain Dialedd Duw.
Y Derwyddon: Y Maen Rhial
Pris: £6.99
ISBN: 978-1-906587-24-6
Awdur: Jean-Luc Istin, Thierry Jigourel, Jacques Lamontagne
Addasiad Cymraeg: Alun Ceri Jones
Dyddiad cyhoeddi: Gwanwyn 2012
48tt, clawr meddal 320mm x 230mm
Nofel graffeg gothig ar gyfer pobol yn eu harddegau ac oedolion
Mae cyfres
Y Derwyddon
hefyd ar gael yn
Saesneg.