Pecyn Cyfansawdd sy’n cynnwys tair cyfrol gynta cyfres Y Derwyddon, sef Dirgelwch yr Ogam, Cyfaredd Caer Is, a Gwayw’r Goruchaf. Cyhoeddir nifer cyfyngedig o becyn y Cynhaeaf Cyntaf.
Mae’r gyfres wedi ei gosod yn Oes y Seintiau Brythoneg yn y 5ed ganrif, yn dilyn y derwydd Gwynlan wrth iddo fynd i’r afael â chyfres o lofruddiaethau milain mynachod yr Eglwys Geltaidd. Awgryma’r dystiolaeth yn gryf mai’r derwyddon sy’n gyfrifol am y llofruddiaethau hyn, ond buan y daw gwybodaeth newydd i’r fei sy’n pwyntio’r bys at garfan gyfrin o’r Fam Eglwys yn Rhufain. Wrth i hen ffydd y derwyddon fynd ben ben â grym yr Eglwys, mae’r hen dduwiau wrth law i gynorthwyo’r cyfiawn.
Y Derwyddon: Y Cynhaeaf Cyntaf (pecyn cyfansawdd)
ISBN: 978-1-906587-13-0
Awdur: Jean-Luc Istin, Thierry Jigourel, Jacques Lamontagne
Addasiad Cymraeg: Alun Ceri Jones
Dyddiad cyhoeddi: Haf 2010
Pris: £19.99
Pecyn Cyfansawdd o dair cyfrol gynta’r gyfres
Cyfres gothig ar gyfer pobol yn eu harddegau ac oedolion
Mae cyfres
Y Derwyddon
hefyd ar gael yn
Saesneg.