YsgolionAddysg.html
Y WasgPress.html
HafanDalen_%28Llyfrau%29_Straeon_Stribed_yn_Gymraeg.html
ArchebuPrynu.html
CipolwgCipolwg.html
CysylltuCysylltu..html
PrynuGeiriadur_Celf_Prynu.html
CynigionCynigion_Arbennig.html
MwyLle_Busnes.html
Cylch-lythyrCofrestru.html
 

Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae’r Geiriadur Celf wedi ei lunio’n unswydd ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae’n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy’n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru, enghreifftiau o waith a all ysbrydoli ymchwil pellach, ynghyd â chyfeiriadau at gofnodion eraill yn y llyfr. Gall y Geiriadur arwain y myfriwr at ddeunyddiau ac esbonio sut maen nhw’n gweithio; gall arwain y darllenydd drwy thema arbennig, ac arwain yr artist ifanc drwy’r elfennau ffurfiol sy’n bwysig ar gyfer creu gwaith celf.


Trefnwyd cynnwys a chofnodion y Geiriadur yn ôl trefn yr wyddor er mwyn helpu’r darllenydd i ddod o hyd i wybodaeth yn rhwydd a sydyn. Mae’r Geiriadur hefyd yn cynnwys termau yn Gymraeg a Saesneg, rhestr eirfa a llyfryddiaeth er mwyn hwyluso’i ddefnydd gan fyfyrwyr sy’n gwbl sicr eu Gymraeg, neu fyfyrwyr sydd dim mor rhugl.


Seiliwyd y Geiriadur Celf ar Art & Design: The Essential Word Dictionary gan yr athro a’r arholwr Mark White, ac a gyhoeddwyd gan Philip Allen. Comisiynwyd y fersiwn Gymraeg gan Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi dan nawdd Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC. Golygwyd y fersiwn Gymraeg gan Dafydd Jones sy’n darlithio mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd yn y maes.


Er mwyn gwneud y Geiriadur Celf yn gwbl berthnasol ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru ychwanegwyd nifer fawr o enghreifftiau o waith celf gan artisiaid o Gymru, gweithiau sydd i’w gweld yng Nghymru, ynghyd â mudiadau celf neu ddulliau sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru neu sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r wlad.


Gyda chyfeiriadau hwylus, esboniadau clir a chyngor arholwr, y Geiriadur Celf yw’r cyfeiriadur perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i’r pwnc, sydd eisoes ar ganol cwrs, neu sy’n adolygu ar gyfer arholiad.



 
EnglishGeiriadur_Celf_Saes_1.html