PrynuLewsyn_3_Prynu_.html
RhagorLewsyn_Cym_3.html
Barn y WasgArthur_Legend_Reviews.html
Tu FewnLewsyn3_Cym_2.html
Cylch-lythyrCofrestru.html
YsgolionAddysg.html
Y WasgPress.html
HafanDalen_%28Llyfrau%29_Straeon_Stribed_yn_Gymraeg.html
ArchebuPrynu.html
CipolwgCipolwg.html
CysylltuCysylltu..html
MwyLle_Busnes.html
 

Mae Lewsyn Lwcus wedi derbyn swydd newydd fel sheriff Tre Fenter, tre lle mae cyfraith a threfn ar ddisberod, ac anarchiaeth yn rhemp. Ei orchwyl cyntaf yw cael gwared ar holl ddihirod y dre. Yn eu plith mae Clinton Fenter, pen bandit y ddinas bwdwr hon, sy’n cael ei daflu dan glo i’r un carchar â’r Brodyr Dalton. Haid o bedwar o wylliaid trafferthus yw’r Brodyr, yn amrywio yn eu taldra o’r pwtyn crintachlyd Joe, i fyny trwy Jac, i Wiliam, ac i’r stribyn hirgoes a dwl Afril.


Ar ôl i Fenter baldaruo wrth y Brodyr am ei ddinas wag yng nghanol y paith, mae’r gwylliaid Dalton yn dianc o’r jael, ac yn ail-sefydlu Tre Fenter fel eu dinas eu hunain, Dalton City. Ond heb nemor neb ond hwy eu hunain yn drigolion yn y ddinas ddiflas, mae angen ail-boblogi’r lle. Erbyn hyn mae Lewsyn Lwcus o’i wirfodd yn garcharor i’r gwylliaid Dalton, ac yn cynnig syniad i’r Brodyr sut i ddenu pobol nôl i’r dre – gwahodd holl ddihirod y fro i wledd ysblennydd. Strategaeth gyfrwys dros ben….

 
EnglishLewsyn3_Saes_1.html
Yn y GyfresLewsyn_Cym_Splash.html
CynigionCynigion_Arbennig.html