Aiff Llio a’i mam i dreulio gwyliau’r haf yn nhy Mamgu yn y wlad. Gweddw digon anodd i gyd-dynnu â hi yw’r hen wreigan, ond er gwaetha popeth, hi yw Mamgu ac mae’n rhaid ei charu (a’i godde) oherwydd hynny.
Tra’u bod yn aros gyda Mamgu, daw mam Llio o hyd i nifer o hen atgofion o’i ieuenctid ei hun sy’n profi nad yw’r gagendor rhwng y ddwy genhedlaeth mor anferth â hynny wedi’r cwbwl. Yr un math o bethau sydd ar feddwl y ddwy, a’r mwya o’r rheiny yw cariad – neu’n fwy penodol sut i wneud yn siwˆr fod gan y ddwy ohonyn nhw serch yn eu bywydau. Daw mam Llio ar draws sawl hen fflam yn ei bro enedigol, ond mae’n profi’n anodd iawn cynnau tân serch ar hen aelwyd Mamgu, yn enwedig pan fo’r cof am Rhisiart golygus, sy’n byw drws nesa nôl yn y dre, yn fyw yn ei meddwl. A beth am Llio? Gyda Trystan wedi diflannu heb ddweud ffarwel, tybed ddaw hi o hyd i fachgen perffaith arall?
