Mae Llywelyn Fychan yn grwtyn bach â dychymyg byw, sy wrth ei fodd yn byw yn y wlad ar gwr y goedwig. Bod dydd mae’n cerdded i’r ysgol yn y dre gerllaw, lle mae un o’i ffrindiau’n troi’n od dros nos – eu llygaid yn ddifynegiant a’u cof yn gwbwl wag. Tybed ai Miss Eirlys Rhoswen, y ddraig o brifathrawes, sydd ar fai, yn cynnal rhyw arbrofion ar ei disgyblion er mwyn iddyn nhw fihafio’n well yn y dosbarth? Neu oes gan y tri disgybl newydd – Llofan, Morgegog, a Cacmwri – rywbeth i’w wneud â’r peth? Yn sicr mae agwedd y tri yn ddigon erchyll, ac mae rhywbeth o’i le o ran eu pryd a’u gwedd hefyd. Mae Llywelyn yn benderfynol o fynd i wraidd y mater… ac mae ei waith ditectif yn agor y llen ar antur hunllefus yn y goedwig dywyll, lle mae diogelwch ei ffrindiau (a phawb arall yn y dre) yn y fantol!
Llywelyn Fychan: Ysgol yr Ynfydion
ISBN: 978-0-9551366-2-7
Awdur: David de Thuin
Addasiad Cymraeg: Alun Ceri Jones
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2006
Pris: £6.99
48tt, clawr caled 304mm x 225mm
Stori stribed i ddarllenwyr 8 i 15 oed