Comic stribed newydd sbon ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau ac oedolion yw Ofnau Tywyll: Y Meirw Byw. Mae mam Lisa newydd farw, a’i thad yn wyddonydd penchwiban. Ond er gwaetha’i thrychineb personol, mae Lisa dal eisiau dathlu ei phenblwydd yn 20 oed. Ar noson stormus, mae hi’n gwahodd ei ffrindiau pennaf i barti penblwydd yn ei thy, cartref ar gyrion y dre drws nesa i’r fynwent lle claddwyd ei mam.
Er syndod i bawb, anrheg tad Lisa i’w ferch yw corff ei mam – wedi ei atgyfodi gan ryw gymysgedd gemegol arbennig. Heb yn wybod iddo, dyma’r gymysgedd gemegol o’r oergell ddefnyddiodd un o fêts Lisa, Steff, i baratoi coctel rhyfedd – coctel wnaeth i Ned, un o’r ffrindiau eraill, orfod rhuthro tu allan er mwyn chwydu. Yng nghanol y glaw, llifodd y chwd i gyfeiriad y fynwent, ac o fewn dim o dro mae haid o sombis yn cyrraedd y parti heb wahoddiad, pob un yn benderfynol o ladd pob un o’r bobol fyw yn y parti, gan greu hafoc marwol yn lle’r dathlu.
Wrth i Lisa a Steff, Ned a Mari geisio’u gorau glas i daro nôl, mae llofrudd mwy meidrol ar waith ar y tu fâs. Dyw’r heddlu ddim callach pwy yw e, na sut i’w ddal, ac mae’r pentwr o gig a gwaed sy’n eu wynebu o ganlyniad i gyflafan y sombis yn rhoi penbleth dyrys iddyn nhw. Pwy gaiff y bai am y gyflafan? A fydd unrhyw un yn credu’r stori am y sombis? A beth fydd tynged Lisa, Steff, Mari a Ned yn wyneb y Meirw Byw?
Mae Ofnau Tywyll: Y Meirw Byw yn gomic stribed sydd wedi ei anelu at ddarllenwyr dros 13 oed ac oedolion. Mae’n cynnwys ymddygiad pobol ifanc dros 16 oed.
Ofnau Tywyll: Y Meirw Byw
ISBN: 978-1-906587-01-7
Awdur: Léturgie, Léturgie a Di Martino
Addasiad Cymraeg: Alun Ceri Jones
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2008
Pris: £6.99
48tt, clawr meddal 220mm x 290mm
Stori stribed i ddarllenwyr 13+ ac oedolion. Yn cynnwys ymddygiad oedolion