Mae Moc yn ystyried ei hun fel tipyn o foi, felly pan mae ei gariad Rhian yn ei adael mae'n rhaid iddo dynnu sylw at ei hun. Ond mae hithe'n gweld drwy'r cwbwl, ac mewn gwewyr emosiynol mae ynte'n trio rhoi trefn newydd ar ei fywyd trwy ymuno â chylch o ddynion sy'n ceisio dadansoddi eu hunain (a'u botymau bol). Yno mae'n dod ar draws Cris (neu Cristîn i'w ffrindiau) sy wedi derbyn gwahoddiad i drafod sut beth yw bod yn ddyn hoyw. A dyna lle mae penbleth Moc yn dechrau! Yn y llyfr beiddgar hwn mae ’na bobol noethlymun, pobol wedi tarto lan, pobol strêt, pobol hoyw; dynion yn dynwared menywod, menywod yn ddirmygus o ddynion; menywod yn genfigennus, dynion yn eu byd bach eu hunain; menywod yn gwbod be maen nhw eisiau, a dynion mewn dau feddwl! Llyfr ar gyfer darllenwyr aeddfed sy’n dianc o’r rhigol gyda hiwmor direidus!
Penbleth Dynol Ryw
ISBN: 978-0-9551366-0-3
Awdur: Ralf König
Addasiad Cymraeg: Alun Ceri Jones
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2005
Pris: £7.99
128tt, clawr meddal 230mm x 160mm
Nofel graffeg ddoniol ar gyfer darllenwyr aeddfed 16 oed ac uwch