Mae Tintin ar antur arall i’r Dwyrain Canol mewn stori sy’n dechrau’n ffrwydrol yng nghanol hinsawdd wleidyddol ymfflamychol y 1950au. Rhywsut rywffordd mae Tintin, Milyn, Parry-Williams a Williams-Parry yn aelodau o’r criw ar long y Speedol Star yn teithio tua’r dwyrain, ac yn cyrraedd porthladd Khemekho-Leone ym mrenhiniaeth Khemed. Cyfoeth y frenhiniaeth yw’r aur du – y meysydd olew islaw twyni’r anialwch – ond mae’n frwydr am oruchafiaeth rhwng yr emir Ben Kalish Ezab a’r shîc Pahra Bhlu, ill dau yn hawlio rheolaeth dros y wlad. A rhwng y ddau saif un dihiryn sy’n ceisio manteisio ar y sefyllfa i’w ddibenion ei hun – dihiryn y mae Tintin wedi dod ar ei draws eisoes – ac yn ei feddiant y mae fformiwla cemegol ag iddo ganlyniadau digon tanllyd.
Tintin: Anialwch yr Aur Du
ISBN: 978-1-906587-09-3
Awdur: Hergé
Addasiad Cymraeg: Dafydd Jones
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2009
Pris: £6.99
64tt, clawr meddal 295mm x 215mm
Stori stribed i ddarllenwyr o 8 oed ymlaen