Wrth fynd am dro un noson glir, mae llygaid Tintin yn codi tua’r nen. I fyny fry, gwêl seren yn tyfu’n fwy ac yn fwy a buan y daw’n amlwg nad seren gyffredin mohoni, ond meteorit sy’n hyrddio tua’r Ddaear. Yn ffodus i Tintin, a’r gweddill ohonom, mae’r garreg danllyd yn gwibio heibio i’r Ddaear, ond disgyna un darn ohoni yn y môr ger Pegwn y Gogledd. Gyda’r awgrym fod y garreg o’r gofod yn cynnwys metel newydd sbon, gorchwyl Tintin a’r Capten Hadog yw hwylio ar daith ymchwil wyddonol i oerni’r gogledd i geisio dod o hyd i’r meteorit. Ond heb yn wybod i Tintin, mae pwerau rhyfedd iawn yn perthyn i’r metel newydd yma – pwerau y mae ciwed ddistadl hefyd am gael gafael arnyn nhw.
Tintin: Y Seren Wib
ISBN: 978-1-906587-22-2
Awdur: Hergé
Addasiad Cymraeg: Dafydd Jones
Dyddiad cyhoeddi: Haf 2011
Pris: £6.99
64tt, clawr meddal 295mm x 215mm
Stori stribed i ddarllenwyr o 8 oed ymlaen