Mae digwyddiadau rhyfedd yn taro Mabelfyw Bach, plasty’r Capten Hadog. Mae yntau a Tintin felly yn penderfynu galw heibio i labordy’r Athro Ephraim R Efflwfia sydd gerllaw. Mae Efflwfia wedi bod yn gweithio ar ddyfais nerthol sydd wedi denu sylw gwasanaethau cudd Syldafia a Bordwria. Mae’r ddwy wlad yn elyniaethus tuag at ei gilydd ac yn awyddus i addasu dyfais Ephraim R Efflwfia yn arf rhyfel i gael y gorau o’u gelynion. Mae hyn yn rhoi bywyd yr Athro mewn dybryd beryg wrth iddo gael ei gipio rownd y rîl gan y naill ochr a’r llall. Wrth i Tintin a’r Capten Hadog orfod mynd dros ben llestri i sicrhau diogelwch eu cyfaill o wyddonydd, daw’n amlwg i’r Athro Ephraim R Efflwfia bod ei ddyfeisgarwch wedi mynd yn rhy bell.
Cyhoeddwyd stori Cawl Erfyn Efflwfia yn gyntaf ym 1956 fel sylw ar y gwrthdaro rhyngwladol rhwng y Gorllewin a’r bloc Comiwnyddol, ac mae’n adlais o’r twf mewn poblogrwydd yn y genre ysbïo yn y cyfnod. Ystyrir mai’r llyfr hwn yw campwaith mwyaf Hergé. Mae’r stori yn un grefftus tu hwnt, a realaeth y gwaith darlunio yn gyforiog o gyfeiriadau gweledol at leoliadau go iawn ar draws Ewrop. Yn yr antur hon can ymddangosiad cameo gan Hergé yn un o’r golygfeydd o‘r torfeydd y tu allan i gartref y Capten, Mabelfyw Bach.
.
Tintin: Cawl Erfyn Efflwfia
ISBN: 978-1-906587-23-9
Awdur: Hergé
Addasiad Cymraeg: Dafydd Jones
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2011
Pris: £6.99
64tt, clawr meddal 295mm x 215mm
Stori stribed i ddarllenwyr o 8 oed ymlaen